Ffermio Manwl
Mae ffermio manwl o fudd i ffermwyr a'r amgylchedd trwy ddefnydd o faetholion wedi'i ffermion yn fanwl. Bydd hyn yn lleihau faint o golledion a wneir trwy ymledu a cholledion oherwydd anghydbwysedd maetholion.
Mae Coleg Sir Gar wedi bod yn gweithio gyda Map of AG/ Precision Decisions Ltd, sydd yn arloeswyr byd-eang mewn dadansoddi amaethyddiaeth a thechnoleg modelu. Maent yn darparu gwybodaeth a mewnwelediad arbenigol i ddiwydiannau amaethyddiaeth a chadwyn fwyd o swyddfeydd yn y DU, yr Ariannin a Seland Newydd. Bydd darparu mynediad at ddata a gwybodaeth o ffynonellau deallus o ffermydd yn galluogi busnesau yn y diwydiant amaeth i gynyddu effaith cynllunio a gwneud penderfyniadau i'r eithaf.
Trwy gymryd samplau pridd a thorri'r tir yn ddarnau ar wahân, mae'n bosibl mapio'r lleoedd gorau posibl i ymledu o ddydd i ddydd. Mae'r tir wedi'i rannu'n flociau o 5 hectar. Mae hyn yn caniatáu i chi ledaenu'r swm cywir ar yr amser iawn.
Cynnyrch gwell o gnydau. Mae rhoi manwl gywirdeb yn caniatáu i gnydau dyfu'n fwy cyfartal