Arloesi AmgylcheddolMae Tywi Farm Nutrient Partnership (TFNP) yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ymdrechu i wella amaethyddiaeth trwy greu newidiadau amgylcheddol. Mae TFNP wedi'i leoli ar fferm Gelli Aur sydd â chyfleusterau gwych a all gefnogi prosiectau amaethyddol ac amgylcheddol.
Mae gôr rediad dŵr slyri fferm o gaeau yn un o brif achosion llygredd afonydd yng Nghymru. Mae’r prosiect mynd i gael gafael ar fater y broblem hon trwy ddefnyddio technoleg arloesol a ddyluniwyd i gynorthwyo rheolaeth slyri. Yr amcan yw trin slyri amrwd er mwyn cael gwared â chymaint o’r elfennau sy’n llygru dŵr o slyri cyn gollwng yr hylif ‘wedi’i lanhau’ i gwrs dŵr lleol o dan drwydded, neu trwy ragor o ymchwil ei ail ddefnyddio. Byddai hyn yn cael ei wneud trwy broses o dynnu solidau.
Mae dwysau’r diwydiant llaeth a heriau newid yn yr hinsawdd wedi rhoi’r diwydiant mewn sefyllfa lle nad yw ei reolaeth maetholion cyfredol yn addas rhagor. Mae fferm Gelli Aur yn nodweddiadol yn yr ystyr ei bod yn wynebu'r un sefyllfa. Mae'n gorwedd yn un o'r ardaloedd llaeth mwyaf poblog yn Ewrop ac mae hefyd yn dioddef glaw trwm a llifogydd. Mae newid yn yr hinsawdd yn dod â heriau y bydd yn rhaid i'r diwydiant eu rheoli. Byddai unrhyw system a ddatblygir yn Gelli Aur a'r heriau a wynebir yno yn briodol ar gyfer pob ardal ddaearyddol arall. Mae ffermwyr yn rheng flaen effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae amaethyddiaeth mewn sefyllfa unigryw i fod yn rhan o'r datrysiad, fel ffynhonnell allyriadau a sinc.
Mae Tywi Farm Nutrient Partnership (TFNP) yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ymdrechu i wella amaethyddiaeth trwy greu newidiadau amgylcheddol. Mae TFNP wedi'i leoli ar fferm Gelli Aur sydd â chyfleusterau gwych a all gefnogi prosiectau amaethyddol ac amgylcheddol.