AFONYDD GLÂN

Nod y prosiect hwn yw lleihau'r risg o lygredd aer a dŵr yn sylweddol.

Mae rheolaeth rheoli slyri cyfredol yn gofyn am storfa ddigonol i gwmpasu'r cyfnodau caeedig, ond mae glaw trwm yn achosi storfeydd i orlenwi. Mae newid yn yr hinsawdd yn arwain at law trwm, llifoedd isel a thymheredd dŵr uchel yn cynyddu problemau rheoli slyri. 

Mae gor-ddefnyddio slyri ar dir yn achosi llygredd, felly, mae ffermwyr yn chwilio am ddewisiadau amgen i ddulliau traddodiadol i adeiladu mwy o wytnwch yn y tirweddau ac i leihau siltio a llygredd gwasgaredig o ffermydd.

Image
KEY POINTS
Mae pysgotwyr a grwpiau amgylcheddol yn anhapus gyda dŵr gwastraff amaethyddol yn mynd i mewn i afonydd.
Ein nod yw glanhau'r dŵr sy'n cael ei dynnu o slyri. Gellir rhyddhau hwn yn ôl i afonydd yn ddiogel neu ailgylchu'r dŵr i'w ddefnyddio ar y ffarm (at ddibenion glanhau neu yfed dŵr i'r anifeiliaid).
Byddwn yn gweithio gydag Adnoddau Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i neud profion ar y dŵr.
Bydd y Prosiect hwn yn cadw dŵr yfed yn lân ac yn hyrwyddo diogelwch dŵr trwy leihau dŵr ffo.


Cysylltwch â ni
Os oes unrhyw gwestiynau am ein prosiectau, cysylltwch â ni isod: