Ar ôl brigiadau clefyd anifeiliaid, fel clwy’r traed a’r genau neu salmonela, rhaid i chi lanhau, diheintio a storio a chael gwared ar y dŵr golchi.
Mae glanhau a diheintio ar ôl brigiadau clefyd anifeiliaid yn cynhyrchu mwy o ddŵr golchi, gyda chrynodiadau uwch o ddiheintydd na glanhau arferol.
Darganfyddwch sut i:
- ddilyn reolau atal llygredd pan fyddwch chi’n glanhau ac yn diheintio
- lleihau costau storio a chael gwared ar ddŵr golchi diheintydd
Sut i lanhau a diheintio
Os cadarnheir afiechyd ar eich daliad, bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn dweud wrthych sut i lanhau a diheintio i reoli lledaeniad y clefyd.
Rhaid i chi ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd gan Defra ar gyfer y clefyd.
Os ydych chi’n glanhau ac yn diheintio fferm dofednod buarth, symudwch siediau’r dofednod i ardal lle gallwch chi gynnwys y dŵr golchi lle bo hynny’n bosibl.
Rhaid i chi beidio â chaniatáu i ddiheintydd neu ddŵr golchi fynd i mewn i ffosydd, afonydd, nentydd, llynnoedd, gwlyptiroedd neu ddyfroedd wyneb eraill (fel camlesi a chronfeydd dŵr) nac yn uniongyrchol i ddŵr daear. Gallech gael dirwy ddiderfyn os bydd hyn yn digwydd.
Cael gwared ar ddŵr golchi
Defnyddiwch eich systemau gwaredu gwastraff presennol lle bo hynny’n bosibl. Os na allwch wneud hynny, dylid ystyried yr opsiynau canlynol, yn nhrefn eich dewis chi:
- Draenio i garthffos fudr (opsiwn gorau). Rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan eich ymgymerwr carthffosiaeth cyn i chi ychwanegu dŵr golchi diheintydd i garthffos fudr.
- Defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig (opsiwn 2). Efallai bod gennych eisoes gontract ar gyfer gwaredu diheintydd gwastraff a dŵr golchi, ar gyfer eich gweithgareddau glanhau a diheintio gweithredol arferol, y gallech eu defnyddio. Os na, trefnwch i’ch cludwr gwastraff cofrestredig gasglu eich diheintydd gwastraff a’r dŵr golchi rydych chi am gael gwared ohono. Rhaid i chi fodloni’r gofynion dyletswydd gofal gwastraff.
- Gwaredu ar dir (opsiwn 3). Efallai y gallwch gael gwared ar ddŵr golchi ar dir os oes gennych dir addas ar gael.
Efallai y bydd angen caniatâd amgylcheddol i waredu ar dir. Llenwch a dychwelwch y ffurflen hon a byddwn yn asesu eich dull gwaredu ac yn dweud wrthych a oes angen caniatâd amgylcheddol arnoch i waredu dŵr golchi ar dir (sef taenu ar dir).
Mae ceisiadau am drwydded yn cymryd hyd at 20 diwrnod gwaith a rhaid i chi dalu ffi ymgeisio.
Os ydych chi’n gwneud gwaith taenu ar dir, rhaid i chi gael gwared ar ddŵr golchi o leiaf:
- 10 metr o afonydd, nentydd a ffosydd caeau
- 30m o nentydd â statws cadwraeth natur
- 50m o dyllau turio a ffynhonnau a ddefnyddir i gynhyrchu dŵr yfed neu fwyd
- 250m o nodweddion hydoddiant, e.e. llyncdyllau
- Sicrhau nad yw o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1
Storio dŵr golchi
Os oes angen i chi storio dŵr golchi diheintydd cyn i chi gael gwared ohono, defnyddiwch eich systemau storio dŵr budr neu reoli elifiant presennol lle bo hynny’n bosibl.
Os ydych chi’n glanhau ac yn diheintio ardaloedd nad ydyn nhw wedi’u cysylltu â’ch system storio, gallwch chi:
- ailgyfeirio draeniau presennol
- gosod draeniau newydd
- adeiladu storfa dros dro
Storfeydd Slyri
Dylech osgoi defnyddio storfa slyri.
Os ydych chi’n ychwanegu dŵr golchi diheintydd i storfa slyri, rhaid i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol i daenu holl gynnwys y storfa ar y tir.
Gwiriwch faint o ardal storio sydd ei hangen arnoch chi
Byddwch yn cynhyrchu mwy o ddŵr golchi nag o’r drefn lanhau arferol oherwydd:
- glanhau pwyntiau bioddiogelwch
- golchi cerbydau ac offer wrth ddifa
- Gall yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wneud gwaith glanhau a diheintio rhagarweiniol
I gyfrifo faint o ardal storio dŵr golchi sydd ei hangen arnoch, ystyriwch:
- cyfradd llif dŵr y golchwr pwysedd rydych chi’n ei ddefnyddio
- glawiad cyfartalog yn eich ardal chi
- sy’n disgyn i storfeydd agored, neu i fannau â wyneb caled sy’n draenio i storfeydd
Adeiladu storfa dros dro
Dim ond pan fo’r storfa bresennol yn annigonol y dylid ystyried storfa dros dro ar gyfer dŵr golchi diheintydd.
Rhaid i chi gytuno ar leoliad a dull adeiladu systemau storio dŵr golchi dros dro gyda ni cyn i chi eu hadeiladu.
Rhaid i chi beidio â defnyddio storfa dŵr golchi dros dro am fwy na 12 mis a rhaid i chi gael gwared arni pan nad oes ei hangen mwyach.
Os ydych chi’n adeiladu morlyn storio dros dro, rhaid i chi fodloni’r rheolau canlynol:
- rhaid iddo fod 10m o gyrsiau dŵr, ffosydd a draeniau tir
- rhaid iddo fod 50m o ffynhonnau neu dyllau turio a ddefnyddir i gynhyrchu dŵr yfed neu fwyd
- sicrhau nad yw o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1
- rhaid i’r sylfaen fod uwchben y lefel trwythiad
- rhaid i chi gadw bwlch o leiaf 750 milimetr rhwng wyneb cynnwys y morlyn a thop wal y morlyn
- rhaid i chi ddefnyddio leinin, oni bai bod o leiaf 1m o isbridd clai o dan y sylfaen
- gellir gwneud leininau o rwber biwtyl neu blastig (PVC neu polyethylen dwysedd uchel neu isel)
- rhaid i chi beidio â defnyddio leinin gradd isel mewn ardal dŵr daear risg uchel
Wefan gwreiddiol: