Parthau Perygl Nitradau

Beth yw’r Gyfarwyddeb Nitradau? 

Pwrpas y Gyfarwyddeb Nitradau (91/676/EEC) yw diogelu dyfroedd rhag llygredd o ffynonellau amaethyddol. O dan y Gyfarwyddeb, mae’n rhaid i aelod-wladwriaethau Ewropeaidd nad ydyn nhw’n dewis ymagwedd tiriogaeth gyfan, adnabod dyfroedd sydd wedi eu llygru neu a allai gael eu llygru gan nitradau. Mae hefyd yn gorfodi’r aelod-wladwriaethau roi dynodiad Parth Perygl Nitradau i’r holl dir sy’n draenio i’r afonydd hynny ac felly’n cyfrannu i lygredd nitradau. 

Adolygu cyfnodol 

Mae’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau adolygu’r ffordd maen nhw’n gweithredu’r Gyfarwyddeb bob pedair blynedd a gwneud newidiadau priodol i’r Parthau Perygl Nitradau (NVZ) a/neu’r mesurau yn y Rhaglen Weithredu.  

Digwyddodd yr adolygiad diwethaf yn 2012.  Ein rhagflaenwyr, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wnaeth y gwaith. Cafodd gwybodaeth am NVZau yng Nghymru ei diweddaru yn Ionawr 2013. Ar hyn o bryd, mae NVZau’n cyfrif am ryw 2.4% o arwynebedd tir Cymru. 

Rheolaethau llygredd 

Mae rheolaethau llygredd dan y Rhaglen Weithredu Nitradau mewn grym ar gyfer tua 750 o ffermydd.  

Gellir cael mynediad at y mapiau dynodi Parthau Perygl Nitradau (NVZ) cyfredol drwy Lle Portal.

Gallwch naill ai edrych ar y mapiau gan ddefnyddio’r syllwr mapiau ar-lein neu lawrlwytho’r data

Mae adolygiad newydd o ddynodiadau NVZau yng Nghymru yn digwydd ar hyn o bryd.

Linc i’r erthygl wreiddiol:

https://naturalresources.wales/about-us/what-we-do/water/nitrate-vulnerable-zones/?lang=cy